Maint Ffont:
A
A
A
Cartref Hafan Cymru
Amdanom Ni
Pwy ydym ni?
Hanes a Llwyddiannau
Ein Partneriaid
Tîm Rheoli
Adroddiad Blynyddol
Ein Gwasanaethau Cynhaliaeth
Addysg, Dysgu, Gwaith
Defnyddwyr Gwasanaethau
Newyddion
Digwyddiadau
Storïau Ysbrydoledig
Gyrfaoedd a Gwirfoddoli
Cysylltu â Ni
Llofnodi am ein Cylchlythyr
Dilyniwch ar Twitter
Dilyniwch ar Facebook
Cefnogi ni
cuddiwch y tudalen
gorchuddio eich trac
English
Pwy ydym ni?
Mae Hafan Cymru yn fudiad elusennol sy’n gweithio ar draws Cymru, sy’n darparu gwasanaethau tai a chynhaliaeth i fenywod, dynion a’u plant, yn enwedig felly’r rhai sy’n dianc rhag Camdriniaeth yn y Cartref. Rydym hefyd yn cyflwyno prosiect llwyddiannus iawn o’r enw ‘Sbectrwm’ sy’n mynd i ysgolion ac yn addysgu pobl ifanc Cymru am gamdriniaeth a’i ganlyniadau.
Ers ei sefydlu yn 1989, mae Hafan Cymru, (yr hen Gymdeithas Tai Hafan) wedi mynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn mae ganddi fwy na 140 o staff yn darparu gwasanaethau cynhaliol mewn 17 o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Rydym yn cynnig pecyn cyflawn o wasanaethau cynhaliaeth i helpu pobl a chanddynt anghenion o bob math, sy’n aml yn anghenion cymhleth a sensitif - gan gynnwys pobl sydd wedi dioddef camdriniaeth gorfforol, rywiol neu seicolegol; pobl sy’n gwella eu hiechyd meddwl; cyn-droseddwyr; camddefnyddwyr sylweddau; gadawyr gofal.
Rydym yn annog a galluogi staff a defnyddwyr gwasanaethau i gyfrannu a chymryd rhan trwy ymgynghori rheolaidd, ac mae’r adborth a’r mewnbwn rheolaidd hyn yn cynnal safonau uchel ac mae’n rhan allweddol o’n dulliau arloesol o ddatblygu gwasanaethau.
Nodau ac Amcanion
Mae ein pum nod allweddol yn cynnal a bwydo popeth a wnawn. Y nodau hynny yw :
Mynd i’r afael â thrais a chamdriniaeth a hyrwyddo annibyniaeth i fenywod, dynion a phobl ifanc trwy nifer o wasanaethau priodol.
Darparu’r gwasanaethau cynhaliaeth a thai o’r ansawdd uchaf posib ar gyfer anghenion o bob math, yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn.
Annog defnyddwyr gwasanaethau i gyfrannu a chymryd rhan, arferion gwrth-wahaniaethol a chyfleoedd cyfartal ym mhob agwedd ar ein gwaith, gan gydnabod pwysigrwydd dathlu amrywiaeth diwylliannol.
Hyrwyddo egwyddorion dysgu gydol oes a chynaliadwyedd yn ein gwaith.
Gofalu fod seiliau ariannol cadarn i bob agwedd ar ein gwaith.
Pennwyd yr amcanion cyffredinol canlynol er mwyn datblygu strategaeth fras y mudiad dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn:
Edrych ar bob ffordd bosib o gynhyrchu incwm trwy ehangu ein gweithgareddau a chynyddu cost-effeithiolrwydd ar gyfer hyfywedd ariannol hirdymor.
Atgyfnerthu a gwneud gwelliannau parhaus i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu.
Cynyddu ac ehangu ein gwaith gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc ac atgyfnerthu ein harbenigedd ym maes trais a chamdriniaeth yn y cartref.
Parhau ac ehangu ein rhaglen Dysgu a Gweithio trwy arwain y Bartneriaeth TDG.
Ffocws ar sicrhau a gwella iechyd a lles yr holl staff a’r defnyddwyr gwasanaethau.
Gofalu fod cyfathrebu mewnol mor effeithiol ag y bo modd.
Bod yn greadigol a blaengar ym mhopeth a wnawn.