Golwg Cyffredinol

  • Prosiect ‘Symud Ymlaen’ Hafan Cymru
Mae Prosiect gwaith a dysgu ‘Symud Ymlaen’ Hafan Cymru yn ychwanegu dimensiwn newydd at y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud gyda’r bobl ifanc a’r oedolion a gynhaliwn. Nod y Prosiect yw goresgyn rhwystrau at gyflogaeth, codi hyder, hunan-barch, sgiliau a dyheadau a helpu merched a dynion i gael mynediad at hyfforddiant ffurfiol neu fynd yn syth i waith. Darllenwch mwy am y prosiect "Symud Ymlaen".
  • Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru
Nod prosiect addysg ieuenctid ‘Sbectrwm’, a ariennir gan Comic Relief a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yw addysgu ieuenctid Cymru am gam-drin domestig a’i ganlyniadau. Rydym yn cyflwyno’r prosiect mewn ysgolion ledled Cymru gan siarad â phobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth ymhlith pobl ifanc, mae ‘Sbectrwm’ hefyd yn cyflwyno sesiynau i athrawon, yn dysgu staff cefnogol, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymdeithasol a phobl broffesiynol eraill sydd â diddordeb. Os ydych yn berson ifanc sy’n chwilio am ragor o wybodaeth am gamdriniaeth cliciwch yma. I ymarferwyr sy’n chwilio am ragor o wybodaeth am ‘Sbectrwm’ a sut mae archebu sesiwn gyda’n tîm cliciwch yma. Darllenwch mwy am y Prosiect Sbectrwm.

Investor in People, Positive about disable people logos
Cofrestrwyd fel Cymdeithas Tai elusennol gyda'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Rhif 26412R ♦ Cymdeithas Tai Gofrestredig Rhif J096