Gorchuddiwch Eich Olion

Rhybudd: os ydych yn poeni am rywun yn gwybod eich bod wedi bod ar y gwele hwn dylech ddarllen yr wybodaeth ddiogelwch ganlynol.

Dylech gofio efallai na fydd yr wybodaeth isod yn cuddio eich olion yn llwyr. Os ydych eisiau bod yn gwbl sicr o beidio cael eich tracio ar-lein, y ffordd fwyaf diogel fyddai cysylltu â’r Rhyngrwyd mewn llyfrgell leol, ysgol, coleg neu gartref ffrind.

Hefyd, gofalwch nad ydych yn ychwanegu cyfeiriad gwefan Hafan Cymru at eich llyfrnodau. Mae gweleoedd yr ydych wedi bod ynddynt yn cael eu storio yn eich cyfrifiadur yn ‘ffeiliau rhyngrwyd dros dro’ a 'cwcis'.

Sut ydw i’n cael gwybod pa borwr rydw i’n ei ddefnyddio?


Os ydych yn gwybod pa borwr rydych yn ei ddefnyddio, ewch yn syth i’r cyfarwyddiadau perthnasol isod. Os nad ydych yn gwybod pa borwr rydych yn ei ddefnyddio, gwasgwch ar Help ar y bar offer ar ben sgrin y porwr. Bydd cwymplen yn ymddangos, a bydd y cofnod olaf yn dweud About Internet Explorer, About Mozilla Firefox, neu rywbeth tebyg. Mae’r cofnod yn cyfeirio at y math o borwr rydych yn ei ddefnyddio - yna dylech droi at y cyfarwyddiadau perthnasol isod.

Cyfarwyddiadau ar sut i ddileu hanes & deunydd o’ch cyfrifiadur
  • Internet Explorer 6
(Dewch o hyd i’ch fersiwn trwy ddewis Help yn yr Internet Explorer a gwasgu About Internet Explorer)

Gwasgwch ar fwydlen Tools a dewiswch Internet Options. Ar dudalen General, o dan Temporary Internet Files, gwasgwch ar Delete Cookies ac yna OK. Gwasgwch ar Delete Files, rhowch dic yn y blwch wedi’i labelu Delete all offline content a gwasgwch OK. O dan History, gwasgwch ar Clear History ac yna OK. Yna edrychwch ar ben ucha’r ffenestr a gwasgwch ar fotwm Content, dewiswch AutoComplete ac yn olaf, Clear Forms.
  • Internet Explorer 7
Gwasgwch ar fwydlen Tools a dewiswch Internet Options. Ar dudalen General, o dan Browser History, dewiswch fotwm Delete... Naill ai dewiswch a dilëwch bob adran: Temporary internet files; Cookies, History; Forms data a Passwords; neu dewiswch fotwm Delete all... ar y gwaelod i glirio popeth.
  • Firefox 1 (NID /Netscape)
Gwasgwch ar Tools ac yna Options, yna gwasgwch ar Privacy. Gwasgwch ar fotwm Clear nesaf at History; Saved Form Information; Cookies a Cache.
  • Firefox 2/3
Gwasgwch ar Tools ac yna Options, yna gwasgwch ar Privacy. Yn private data dewiswch settings, gan ofalu fod yr holl flychau wedi cael eu dewis ac yna gwasgwch ar Clear Now
  • Netscape 7
Gwasgwch ar fwydlen Edit a dewiswch Preferences. Yn y ffenestr chwith, chwyddwch History ac yn y llecyn ar y dde gwasgwch ar Clear History. Yna, chwyddwch Privacy a Security a dewiswch Cookies ac yna ar y botwm Manage Stored Cookies ac yn y blwch new dialog gwasgwch ar Remove All Cookies. Yna dilynwch yr un drefn ar gyfer Forms a’r botwm Manage Stored Form Data ac ar gyfer Passwords a’r botwm Manage Stored Passwords. Gallwch hefyd reoli Forms, Cookies a Passwords yn unigol o fwydlen Tools - ond nid y dudalen dros dro Cache files.
  • Opera
Gwasgwch ar Tools ac yna Preferences. Gwasgwch ar fotwm Advanced ac yna adran History ar yr ochr chwith. Gwasgwch ar fotwm Clear ar y dde i Addresses a botwm Empty Now ar y chwith i guddstôr Disk. Nid oes ffordd rwydd yn Opera o gael gwared â’r holl ‘Cookies’.
  • Safari (sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar beiriannau Apple Mac)
Mae ail osod Safari yn clirio’r hanes, yn gwagio’r guddstôr, yn clirio ffenestr Downloads, ac yn cael gwared â’r holl 'cookies’. Mae hefyd yn cael gwared ag unrhyw enwau defnyddwyr neu gyfrineiriau a arbedwyd neu ddata AutoFill arall ac mae’n clirio cofnodion chwilio Google/Yahoo. I wneud hynny ewch i fwydlen Safari ar ben uchaf chwith y sgrin. Dewiswch Reset Safari, a gwasgwch Reset.

Dileu eich hanes pori:

Mae porwyr Rhyngrwyd hefyd yn cadw cofnod o’r gwe dudalennau yr ydych yn mynd iddynt. Yr enw ar hynny yw 'history'. I gael gwared â ‘history’ ar gyfer Internet Explorer a Netscape/Firefox daliwch i lawr yr allwedd Ctrl ar y bysellfwrdd ac yna gwasgwch ar allwedd H (Crtl, Alt a H ar gyfer Opera). Dewch o hyd i gofnodion sy’n dweud www.womensaid.org.uk, gwasgwch ar dde’r llygoden a dewiswch Delete. Ar gyfer Safari, dewiswch History ar ben y sgrîn a dewiswch "Clear History"

E-bost:

Bydd unrhyw e-bost rydych wedi’i ddanfon yn cael ei storio yn Sent Items. Ewch i Sent Items a dilëwch unrhyw e-byst nad ydych am i rywun eu gweld. Os ydych wedi dechrau e-bost ond heb ei orffen, gallai fod yn eich ffoldyr Drafts. Ewch i ffoldyr Drafts i’w dileu.

Os ydych yn ateb unrhyw e-bost, mae’n debyg y bydd y neges wreiddiol yng nghorff y neges - dilëwch yr e-bost os nad ydych eisiau i unrhyw un weld y neges wreiddiol.
Wrth ichi ddileu eitem mewn unrhyw raglen e-bost (Outlook Express, Outlook, Thunderbird ac ati) nid yw’n dileu’r eitem mewn gwirionedd - mae’n symud yr eitem i ffolder o’r enw Deleted Items. Mae’n rhaid ichi ddileu’r eitemau yn Deleted Items i gael gwared â nhw’n gyfan gwbl.
Os oes perygl y bydd rhywun yn gwybod sut i fynd mewn i’ch e-byst, mae’n syniad da agor cyfrif e-bost newydd. Defnyddiwch ddarparydd fel Hotmail neu Yahoo i gael cyfrif y gallwch ei agor yn unrhyw le, a defnyddiwch enw na fydd yn datgelu mai chi ydyw, er enghraifft bakedbeans@hotmail.co.uk. Cadwch y cyfeiriad hwn yn gyfrinachol.

Bariau offer:

Mae bariau offer fel Google, AOL a Yahoo yn cadw cofnod o’r geiriau chwilio rydych wedi’u teipio ym mlwch chwilio’r bar offer. Er mwyn cael gwared â’r holl eiriau chwilio rydych wedi’u teipio, bydd angen ichi edrych ar y cyfarwyddiadau unigol ar gyfer pob math o far offer. Er enghraifft, ar gyfer bar offer Google y cyfan sydd angen ei wneud yw gwasgu ar icon Google a dewis "Clear Search History". Gydag AOL, er mwyn cael gwared ag unrhyw olion o’r gweleoedd y buoch ynddynt, daliwch i lawr yr allwedd "control" ac allwedd "h".
Investor in People, Positive about disable people logos
Cofrestrwyd fel Cymdeithas Tai elusennol gyda'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Rhif 26412R ♦ Cymdeithas Tai Gofrestredig Rhif J096