RHODD RHYDDID
YMUNWCH Â DIGWYDDIAD CODI ARIAN PRESENNOL
TREFNWCH DIGWYDDIAD EICH HUN
RHODDWCH TRA BO CHI'N SIOPA NEU'N ARCHWILIO AR-LEIN
GADEWCH RHODD MEWN EWYLLYS
GWIRFODDOLI
ENWEBWCH HAFAN CYMRU EICH ELUSEN Y FLWYDDYN
CEFNOGWCH DIGWYDDIAD CODI ARIAN PERSENNOL
CYNIGIWCH EICH ARBENIGEDD
Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu gyda’n cenhadaeth i Atal Camdriniaeth a Hyrwyddo Annibyniaeth Cefnogwn fenywod, dynion a phlant sy’n diancrhag trais yn y cartref ac addysgu plant Cymru am gamdriniaeth a’i ganlyniadau.Medrwn wneud gwahaniaeth drwy weithio gyda’n gilydd. Cefnogwch ni heddiw.
Bydd ein Pecyn Codi Arian yn rhoi gwybodaeth i chi a syniadau sut i gefnogi Hafan Cymru. Rhedwch ras. Coginiwch bryd o fwyd i’ch ffrindiau a’ch teulu. Ewch am her bersonol. Byddem wrth ein bodd yn cefnogi eich ymdrechion i godi arian, felly gadewch i ni wybod beth sydd ar droed gyda chi. Bydd pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Os hoffech gymryd rhan a chael eich pecyn rhad ac am ddim, cysylltwch â'n Tim Marchnata ar 01267 225558 neu Ebost: marketing@hafancymru.co.uk i drafod eich syniadau codi arian. Fel arall mae fersiwn PDF ar gael i'w godi o'r wefan: Pecyn Ffeithiau Codi Hwyl ac Arian Hafan Cymru (2.5mb)
Gallwch roi cyfraniad un-tro neu roi swm bychan bob mis a gwneud byd o wahaniaeth i fywyd rhywun.Cliciwch yma i fynd at ein tudalen rhodd.
Gadael rhodd yn eich Ewyllys - Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol o’r ystadegyn brawychus bod Camdriniaeth Domestig yn effeithio ar 1 o bob 4 o fenywod ac 1 o bob 12 o ddynion rhywbryd yn ystod eu bywydau. Mae natur anrhagweladwy bywyd yn golygu y gallwn ar unrhyw adeg ganfod ein hunain mewn perthynas agos sy’n arwain at ymddygiad ymosodol, boed corfforol, seicolegol neu emosiynol. Fel arall, efallai y cawn ein hunain mewn sefyllfa lle y bydd un o’n hanwyliaid, boed mam, merch, mab neu ffrind agos, yn dioddef effeithiau personol a dinistriol camdriniaeth. Yr unigolion agored i niwed yma y mae Hafan Cymru yn eu cefnogi. Pan nad ydynt mwyach yn medru dioddef poen corfforol ac emosiynol i’w hunain, ac yn aml i’w plant, rydym yn helpu iddynt dorri’n rhydd rhag trais a dechrau rhoi darnau eu bywydau yn ôl at ei gilydd unwaith eto.
Ni allwn ragweld, na chwaith ddewis, gan amlaf, yr hyn sydd gan fywyd ar ein cyfer. Am y rheswm hwn, rydym yn gofyn i chi ystyried gadael rhodd i Hafan Cymru yn eich ewyllys. Bydd hyn yn ein helpu ni yn ein brwydr ddyddiol i atal camdriniaeth a hybu annibyniaeth yng Nghymru.
Os ydych eisoes wedi gwneud Ewyllys - Os ydych eisoes wedi gwneud Ewyllys, ond am adael rhodd i Hafan Cymru, gallwch wneud hynny drwy wneud ychwanegiad syml i’ch Ewyllys presennol. Gelwir hyn yn godisil. Trwy ychwanegu’r atodiad hwn at eich Ewyllys fe allwch gynnwys cyfarwyddiadau newydd a dileu rhai hen heb orfod dirymu’r Ewyllys gyfan.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud Ewyllys - Os nad oes gennych Ewyllys ar hyn o bryd, mae’n bosib y bydd angen i chi weld cyfreithiwr. Er y bydd yn rhaid i chi dalu ffi, byddwch yn derbyn cyngor proffesiynol dibynnol ac yn medru sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu cyflawni.
Dwy ffordd o gyflwyno rhodd i Hafan Cymru yn eich Ewyllys
Oeddech chi’n gwybod y gallech chi wneud rhywbeth rhyfeddol trwy ddim ond siopa ar-lein? Erbyn hyn, gallwch godi arian ar gyfer Hafan Cymru wrth siopa ar-lein, yn syml drwy gofrestru arwww.easyfundraising.org.uk/causes/hafancymru a dewis ni fel eich elusen a enwebwyd.
Mae yna 2000 o siopau ar-lein, o fwyd a gwin i deithio, yswiriant, cyfleustodau a nwyddau cartref sy’n fodlon rhoi arian yn ôl i ni ar y swm y byddwch chi’n ei wario. Gallwch weld rhestr lawn o’r siopau sy’n cymryd rhan ar: www.easyfundraising.org.uk/home/a-z_of_retailers.
Dim ond pum munud sydd ei angen i gofrestru, ond fe fydd yn newid bywydau. Dewch yn rhan o ymgyrch led led Cymru i weithredu’n gadarnhaol i dorri gafael Cam-drin Domestig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.